Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad: CLA(4)-09-12 : 30 Ebrill 2012

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol

 

CLA128 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaenol) (Cymru) (Dirymu) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed:23 Mawrth 2012.

Fe’i gosodwyd:23 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar:18 Ebrill 2012.

 

CLA132 - Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) (Diwygio) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:26 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd:28 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar:18 Ebrill 2012.

 

CLA135 - Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:28 Mawrth 2012.

Fe’u gosodwyd:30 Mawrth 2012.

Yn dod i rym ar:1 Mai 2012.

 

CLA136 - Rheoliadau Diogelwch Tân (Galluoedd Cyflogeion) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed:8 Ebrill 2012.

Fe’u gosodwyd:16 Ebrill 2012.

Yn dod i rym ar:12 Mai 2012.

 

 

 

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol

 

CLA129 - Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol.

Fe’i gwnaed:heb ei nodi.

Fe’i gosodwyd:heb ei nodi.

Yn dod i rym ar:9 Mai 2012.

 

CLA130 - Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol.

Fe’u gwnaed:heb ei nodi.

Fe’u gosodwyd:heb ei nodi.

Yn dod i rym ar:yn unol â rheoliad 1(2).

 

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol.

Fe’u gwnaed:2012.

Fe’u gosodwyd:heb ei nodi.

Yn dod i rym ar:1 Hydref 2012.

 

 

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol

 

Dim

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol

 

Dim

 

Busnes arall

 

Gohebiaeth y Pwyllgor

 

CLA110 - Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012

 

Nododd yr Aelodau ymateb y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 16 Mawrth, ynghylch pwyntiau rhinweddau CLA 110 – Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012. 

 

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

 

Cytunodd y Pwyllgor i estyn gwahoddiad i Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, i drafod Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).

 

Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r sesiwn dystiolaeth gyda’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

30 Ebrill 2012